Mae’n Wythnos Iechyd Meddwl Plant a thema’r ymgyrch eleni yw Tyfu Gyda’n Gilydd.
Mae Tyfu Gyda’n Gilydd yn ymwneud â thyfu’n emosiynol a dod o hyd i ffyrdd o helpu ei gilydd i dyfu. Gall heriau ac anfanteision ein helpu i dyfu ac addasu a gall rhoi cynnig ar bethau newydd ein helpu i symud y tu hwnt i’n parth cysur i mewn i amgylchfyd newydd o bosibilrwydd a photensial.
Mae gan 1 o bob 6 o blant a phobl ifanc broblem iechyd meddwl y gellir ei diagnosio ac mae llawer mwy yn ei chael hi’n anodd ymdopi â heriau o fwlio i brofedigaeth.
Boed yn sydyn neu’n ddisgwyliedig, gall profedigaeth o fewn cymuned ysgol effeithio’n ddifrifol ar les corfforol, meddyliol ac emosiynol plant, staff a’r gymuned ehangach, os nad yw’n cael ei drin yn briodol.
Er y gall marwolaeth fod yn bwnc anghyfforddus i’w drafod, mae profedigaeth yn rhywbeth y bydd yn rhaid i lawer o fyfyrwyr ddelio ag ef ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ysgol.
Mae’n hanfodol bod myfyrwyr, athrawon a staff ysgol yn deall y broses alaru ac yn gallu cael gafael ar adnoddau cymorth priodol. Mae 2wish yn deall y gall delio â marwolaeth fod yn gyfnod heriol i ysgolion, ond rydym yma i helpu. Gadewch i ni dyfu gyda’n gilydd a helpu i gefnogi plant sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl oherwydd profedigaeth.
Gall ein tîm helpu drwy:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Cydlynydd Plant a Phobl Ifanc:
Ellie (Cydlynydd Plant a Phobl Ifanc)
ellie@2wish.org.uk
07884539522
10 March 2022